Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • ALLA' I EI AILGYLCHU
  • Lleoliad Ailgylchu
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Pam ailgylchu?
    • Canllaw Cyfleus ar gyfer Ailgylchu Bwyd
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Beth arall alla’ i ei wneud?
    • Rwyf eisiau gwneud mwy
    • Troi gwastraff Cymru yn ynni
    • FY AILGYLCHU CYMRU
  • LLEIHAU
    • Compostio yn y cartref
    • Lleihau ac ailddefnyddio deunydd pacio
    • Prif awgrymiadau ar gyfer lleihau gwastraff
    • Byw’n glyfar
    • Siopa clyfar
    • Dweud NA wrth sgrwtsh
    • Ymgyrch Cewynnau Go Iawn
  • AILDDEFNYDDIO
    • Canllaw ailddefnyddio i ddechreuwyr
    • Yn eich cymuned
    • Yn eich cartref
    • Ailddefnyddio ar waith

Beth i'w wneud gyda

PAPUR

Caiff graddau gwahanol o bapur eu defnyddio i gynhyrchu ystod o eitemau pob dydd – o bapurau newydd a chylchgronau i daflenni hysbysebu, llyfrynnau, cyfeirlyfrau ffôn, catalogau a dalenni papur.

Ar y cyfan, mae papur yn ddeunydd y gellir ei ailgylchu, ond mae yna eithriadau ac mae’n bwysig nodi nad yw’r holl fathau o bapur yn cael eu derbyn yn eich casgliadau ailgylchu gwastraff y cartref.  Bydd eich cyngor lleol yn gallu rhoi cyngor i chi ar yr eitemau y gall ei dderbyn.

Ble gallaf i ailgylchu? »

[[{"fid":"4189","view_mode":"media_original","type":"media","attributes":{"height":"201","width":"120","class":"media-element file-media-original wysiwyg-float-right"}}]]

Papurau newydd, cylchgronau, taflenni hysbysebu, llyfrynnau bach, amlenni (heb ffenestri) a phapur - caiff y rhain eu casglu’n eang gan y rhan fwyaf o gynghorau a gallwch eu rhoi yn eich bin ailgylchu, oni bai bod eich cyngor wedi dweud yn wahanol.

Amlenni â ffenestri - ni all llawer o gynghorau dderbyn y rhain oni bai bod y ‘ffenestr’ wedi’i thynnu o’r amlen.

Carpion papur – yn aml, nid yw’r rhain yn cael eu derbyn oherwydd y gall y ffibrau bach fynd yn sownd yn y peiriannau yn y cyfleusterau ailgylchu; er y bydd rhai cynghorau’n derbyn carpion papur os ydynt yn cael eu rhoi mewn bocs grawnfwyd gwag, er enghraifft.

Cyn i chi ailgylchu carpion papur, gwiriwch â’ch cyngor lleol.

Llythyrau sgrwtsh – gallwch roi’r eitemau hyn yn eich bin ailgylchu, oni bai bod eich cyngor wedi dweud fel arall.  Os hoffech leihau faint o bost rydych yn ei dderbyn, mae’r Gwasanaeth Dewis Post  yn rhoi cyngor ar sut gallwch wneud hyn.

Cyfeirlyfrau ffôn – caiff y rhain eu casglu gan y rhan fwyaf o gynghorau a gallwch eu rhoi yn eich bin ailgylchu, oni bai bod eich cyngor wedi dweud fel arall.  Mewn ardaloedd lle na allwch ailgylchu cyfeirlyfrau ffôn gartref, cânt eu derbyn yn eich canolfan ailgylchu leol, fel arfer.  I arbed papur, gallwch ddewis peidio â chael cyfeirlyfr ffôn wedi’i gludo i’ch cartref fel a ganlyn:

  • Yellow Pages, ffoniwch Radffôn 0800 671 444
  • Cyfeirlyfr Thomsons Local, ffoniwch 01252 390990

Catalogau - gellir ailgylchu rhai catalogau, ond mae’n amrywio o un ardal i’r llall.  Mae hefyd yn dibynnu at y math o gatalog.  Gwiriwch â’ch cyngor lleol i weld a allwch roi eich hen gatalogau yn eich cynllun casgliad ailgylchu lleol.

Papur lapio – bydd rhai cynghorau’n derbyn papur lapio plaen (wedi’i wneud o bapur) os nad oes ganddo befriad, tâp glynu neu addurniadau eraill arno.  Fodd bynnag, nid yw rhai mathau o ‘bapur’ lapio wedi’u gwneud o bapur o gwbl – maent yn fath o blastig ac ni ellir eu hailgylchu.  Cyn ailgylchu papur lapio, gwnewch yn siwr y bydd eich cyngor yn ei dderbyn.

Papur wal - ni ellir ailgylchu papur wal a dylech ei roi yn eich bin sbwriel.  P’un a yw wedi’i dynnu oddi ar y wal neu’n weddill ar ôl prosiect ailgylchu, mae’r caenau sy’n cael eu rhoi ar y papur wal yn ei wneud yn anaddas i’w ailgylchu.  Mae’r caenau hyn yn cynnwys:

  • Caenau finyl, sy’n cael eu rhoi i wneud papur wal yn fwy gwrthsafol i ddŵr a difrod arall;
  • Gall effeithiau gweadog ddefnyddio polystyren neu ddeunyddiau seiliedig ar blastig;
  • Paent.

A ellir ei ailddefnyddio?

  • Defnyddiwch ddwy ochr dalenni papur a chofiwch ddefnyddio papur sgrap i wneud nodiadau a rhestri siopa;
  • Gellir defnyddio papurau newydd a chylchgronau ar gyfer prosiectau crefft plant, fel collage a mosaig;
  • Defnyddiwch bapur sgrap i wneud mygydau, pinatas, ffigurynnau neu bowlenni addurniadol ar gyfer ffrwythau neu ddanteithion allan o fwydion papur.

Alla’ i wneud unrhyw beth arall ag ef?

  • Cysylltwch â meddygfeydd, deintyddion neu siopau trin gwallt i weld a hoffent gael eich hen gylchgronau ar gyfer eu hystafelloedd aros;
  • Cysylltwch â grwpiau chwarae lleol neu ysgolion cynradd i weld a hoffent gael eich hen gylchgronau ar gyfer prosiectau creadigol.

Prif Awgrymiadau

  • Peidiwch â rhoi papur wedi’i halogi â gwastraff bwyd gyda’ch deunydd papur i’w ailgylchu;
  • Gallech leihau eich gwastraff papur trwy gofrestru ar gyfer biliau dibapur;
  • Wrth ailgylchu amlenni papur, cofiwch dynnu unrhyw ffenestri plastig.

Dyma gartŵn sy’n dangos sut mae papur yn cael ei ailgylchu:

  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Ailgylchu Dros Gymru

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU