Beth i'w wneud gyda
LLESTRI A CHYLLYLL A FFYRC

Eitemau o dras ac eitemau ‘retro’ yw’r ffasiwn ar hyn o bryd, felly os oes gennych unrhyw gwpanau a soseri porslen del neu gyllyll a ffyrc i gael gwared arnynt ac sydd mewn cyflwr da o hyd, ystyriwch yr opsiynau canlynol.
Gwerthwch nhw i wneud ychydig o arian...
- Ewch â nhw i arwerthiant cist car neu arwerthiant moes a phryn
- Gallwch eu gwerthu ar-lein ar wefannau fel eBay a Gumtree.
Pasiwch nhw ymlaen...
- Holwch ffrindiau a pherthnasau i weld a hoffen nhw eu cael – efallai mai dyna’r union beth sydd ei eisiau arnynt!
- Rhowch nhw i siop elusen neu sefydliad ailddefnyddio lleol;
- Ewch ar-lein i’w rhoi’n rhad ac am ddim – rhowch gynnig ar wefannau felFreecycle a Freegle.
Mae wedi torri – beth gallaf ei wneud?
- Ei ailgylchu yn eich canolfan ailgylchu leol;
- Mae llestri sydd wedi torri yn cael eu derbyn yn y sgipiau ‘seiliau caled a rwbel’;
- Gall cyllyll a ffyrc metel gael eu hailgylchu yn y sgipiau ‘metelau’.