Beth i'w wneud gyda
CYMHORTHION CLYW

Nid yw cymhorthion clyw yn cael eu casglu fel rhan o’ch casgliad ailgylchu lleol nac mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Fodd bynnag, maent yn cael eu casglu ar gyfer elusennau mewn amrywiol leoedd...
Beth gallaf ei wneud â nhw?
Yn aml, gallwch ddod o hyd i fannau casglu ar gyfer cymhorthion clyw mewn:
- Meddygfeydd;
- Adrannau awdioleg mewn ysbytai;
- Arbenigwyr clyw preifat;
- Rhai siopau elusen h.y. Help the Aged ac Age Concern.
Fel arfer, mae’r casgliadau hyn ar gyfer elusennau. Caiff cymhorthion clyw a roddir eu trwsio, eu hadnewyddu a’u hanfon dramor i’w hailddefnyddio mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae eisiau batris ar gyfer cymhorthion clyw hefyd.