'Recycled Beats' - Haf
Sut gall ailgylchu bweru gŵyl gerddoriaeth?
Mae mwy a mwy o bobl Cymru yn ailgylchu. A dweud y gwir, ni yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu! Rydym hefyd yn hoff iawn o wyliau cerddoriaeth yma yng Nghymru, felly rydym am ddatgelu sut mae eich ailgylchu yn pweru’r gwyliau hyn.
All y caniau cwrw gwag yna wir bweru’r prif berfformiwr? Mae ein hymgyrch #SŵnNidSbwriel yn datgelu’r cyfan.
- 1
- 25K
ymwelwyr eich gwyl yn ailgylchu'r eitemau hanfodol yma mae modd arbed digon o ynni i bweru cerddoriaeth ar y brif lwyfan am 0
Poteli Dŵr | 1 | |
Caniau cwrw | 1 | |
Caniau siampŵ sych | 1 | |
Rholiau Toiled | 1 | |
Poteli eli haul | 1 |
O Sbwriel i Sŵn
Rydym yn defnyddio hyd at 95% yn llai o ynni i wneud nwyddau o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn hytrach na deunyddiau crai. Mae’n amser codi stŵr gyda’ch ailgylchu!
Dilynwch #SŵnNidSbwriel ar ein tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram i weld sut mae ailgylchu yn helpu i bweru eich hoff ŵyl.
Oeddech chi’n gwybod…
Poteli Dŵr
Wyddoch chi y gellid troi poteli dŵr wedi’u hailgylchu yn grysau t? Dyna ddewis da at wisg yr ŵyl nesaf!
Poteli eli haul
Wyddoch chi mai Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu? Mae hynny’n ardderchog, ond rydym yn methu ar eitemau fel poteli pethau ymolchi gwag. Sicrhewch eich bod yn eu hailgylchu i gyd a helpwch ni i fod y genedl ailgylchu orau yn y byd.
Caniau siampŵ sych
Gallai eich eitemau ystafell ymolchi wedi’u hailgylchu bweru’r gawod gyntaf ar ôl dod adref o’r ŵyl. 2 gan erosol + 3 potel siampŵ neu gel cawod = arbed digon o ynni i bweru’r gawod am 10 munud.
Rholiau Toiled
Mae ailgylchu dim ond un tiwb papur toiled yn arbed digon o ynni i wefru eich ffôn symudol ddwywaith – mae hynny bron yn ddigon i barhau’r penwythnos i gyd!
Caniau cwrw
Gellir ailgylchu alwminiwm drosodd a throsodd yn ddiddiwedd heb ddirywiad yn ei ansawdd. Mae’n cymryd mwy o ynni i’w gynhyrchu o’r newydd nag unrhyw un o’r deunyddiau eraill – gallai dim ond un can cwrw wedi’i ailgylchu arbed digon o ynni i bweru bwrdd troelli DJ am 4 awr.
Y Lleolydd Ailgylchu
Cymru yw’r 3edd wlad orau yn y byd a’r 2il orau yn Ewrop am ailgylchu. Helpwch ni i fod y gorau yn y byd drwy ailgylchu gymaint ag y gallwch. Ansicr am unrhyw eitem? Defnyddiwch ein Lleolydd Ailgylchu isod i ddarganfod yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am yr hyn y gallwch ac nad allwch ei ailgylchu yn eich ardal.