SUT GALL AILGYLCHU BWERU’R PARTI?
C. Mae ailgylchu un botel prosecco wag yn arbed digon o ynni i bweru set DJ am...
- A. 20 mun
- B. 30 mun
- C. 60 mun
Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ailgylchu yn ystod y Nadolig – a dweud y gwir, Cymru yw’r un o'r genedl orau yn y byd am ailgylchu. Mae hynny’n anhygoel, ac rydyn ni’n dathlu drwy ddatgelu’r cyfrinachau sy’n perthyn i’ch gwastraff Nadoligaidd. P’un ai mynd allan i’r dref i ddathlu, neu gynnal parti gartref fyddwch chi; dyma bum ffordd y gall eich ailgylchu Nadoligaidd bweru eich partïon dros yr Ŵyl:
-
1. Paratoi
Mae caneuon da yn rhan hanfodol o UNRHYW baratoadau ar gyfer parti. Tra byddwch chi’n canu yn y gawod, cofiwch y gall 1 botel siampŵ wag arbed digon o ynni i chwarae 5 albwm gan y Super Furry Animals ar eich stereo gartref, gefn wrth gefn. Diolch byth bod y rhan fwyaf ohonoch yn ailgylchu eich pethau ymolchi plastig.
-
2. Y parti tŷ
Mae’r parti yn siŵr o redeg allan o bapur toiled cyn diwedd y noson. Wyddoch chi y gallai’r tiwb papur toiled bweru hudoliaeth y disgo? Mae ailgylchu dim ond 1 tiwb papur toiled yn arbed digon o ynni i gadw’r bêl ddisgo’n troelli am ddwy awr gyfan.
-
3. Mewn gig
Ai dawnsio a fydd eich prif ddull o gael ymarfer corff dros y Nadolig? Peidiwch ag anghofio cadw’n ffres ar y llawr dawns ac oddi arno. Gallai ailgylchu un can o ddiaroglydd bweru amp gitâr am 9 gig! Gan fod y rhan fwyaf o drigolion Cymru yn ailgylchu caniau erosol, gallwn gadw’r parti i fynd tan y Nadolig nesaf!
-
4. Y bore wedyn
Swatio ar y soffa gyda gwledd o glasuron Nadoligaidd i’w gwylio a digonedd o fwydydd ysgafn yw’r unig beth ar gyfer cael gwellhad ar ôl noson hwyr. Peidiwch â theimlo’n euog am eich amser gorffwys ... gall ailgylchu un can o’r noson gynt bweru’r teledu ddigon hir i wylio Home Alone, Love Actually, a hyd yn oed ychydig o The Grinch.
-
5. Glanhau ar ôl y parti
Mae’r parti drosodd a phawb yn cysgu, ond mae’r poteli sylweddau glanhau yn llawn egni. Mae 77% ohonoch yn ailgylchu poteli hylif glanhau plastig yng Nghymru. Dyma ffaith i chi – pe bai 77% o boblogaeth Cymru yn ailgylchu un botel cannydd, byddai’r ynni a gâi ei arbed yn ddigon i bweru set o oleuadau disgo troellog yn ddi-baid am 1,367 o flynyddoedd. Digon i gadw’r parti dan ei sang tan y flwyddyn 3384... Dwylo i fyny os ydych chi’n credu y gallech ddal ati i ddawnsio mor hir â hynny!
Lleolydd Ailgylchu
Cymru yw’r 3edd orau yn y byd a’r 2il orau yn Ewrop o ran ailgylchu. Helpwch ni i fod y gorau yn y byd drwy ailgylchu popeth y gallwch. Ansicr am unrhyw eitemau? Defnyddiwch ein Lleolydd Ailgylchu isod i ddarganfod popeth rydych angen ei wybod am yr hyn y gellir a’r hyn na ellir ei ailgylchu yn eich ardal chi.