Cael gwared ar annibendod yn eich cartref

Mae angen i ni gyd gael gwared ar annibendod o dro i dro, ond cyn i chi roi’r eitemau dieisiau hynny yn y bin, mae llawer o bethau y gallech eu gwneud i ymestyn eu hoes, fel eu gwerthu, eu rhoddi neu eu hailgylchu, cyn eu taflu.
Awgrym: Pan fyddwch yn dechrau, ewch i’r afael ag un ystafell ar y tro i’w gwneud hi’n haws i’w reoli a bydd yn llai brawychus. Peidiwch â cheisio gwneud y cyfan ar yr un pryd.
Cam 1
Gofynnwch bedwar cwestiwn i chi eich hun, a byddwch yn gwybod beth i’w wneud gyda’ch eitemau gormodol:
A ydw i wedi’i ddefnyddio neu ei wisgo yn y 12 mis diwethaf neu fwy?
- A yw wedi torri y tu hwnt i’w atgyweirio?
- A oes gen i fwy nag un o’r un eitem?
- A ydw i’n cadw pethau’n ddiangen?
Os ydych, gellir ei ailgylchu, ei werthu, ei roddi neu ei ailddefnyddio!
Cam 2
Dechreuwch arni (ewch i’r afael ag un ystafell ar y tro i wneud yr orchwyl yn fwy hylaw). Gofynnwch i’r teulu cyfan gymryd rhan, gallwch ddod i ben yn gynt wedyn!
Cam 3
Ailgylchwch, ailddefnyddiwch, rhoddwch neu gwerthwch unrhyw eitemau dieisiau.
Ailgylchu
Cyn ei roi yn y bin, gwiriwch ein rhestr A-Y i weld a allwch ei ailgylchu.
Ailgylchwch unrhyw ddillad rydych wedi tyfu allan ohonynt neu ddim yn hoff ohonynt mwyach. Bob blwyddyn yn y DU, amcangyfrifir bod dros 1 miliwn tunnell o decstilau yn cael eu taflu’n ddiangen – fodd bynnag, gellir ailddefnyddio neu ailgylchu llawer trwy ohono trwy roi trefn ar eich cwpwrdd dillad.
Ailddefnyddio
Mae ailddefnyddio yn ffordd hawdd i gael gwared ar eitemau dieisiau – nid yn unig y byddant yn cael bywyd newydd, ond byddwch yn eu hatal rhag cael eu hanfon i safle tirlenwi.
Ailddefnyddio ar-lein – mae llawer o wefannau pwrpasol i gyfnewid neu roi eitemau nad ydych eu hangen mwyach:
Gumtree – gwiriwch yr adran ‘freebies’
Prif awgrym: beth am gynnal parti cyfnewid dillad gyda’ch ffrindiau. Wrth i nifer ohonom ddechrau cyfrif cost y wasgfa gredyd, mae partïon cyfnewid dillad (swishing) yn ffordd wych i arbed arian a’r amgylchedd heb gyfaddawdu ar steil.
Mae’r cysyniad o swishing yn syml. Trefnwch fod grŵp o ffrindiau yn dod at ei gilydd. Dywedwch wrth bawb am ddod â detholiad o ddillad nad ydynt eu hangen mwyach, a dechreuwch gyfnewid! Nid yn unig y gall fod yn noson wych, hon fydd y daith siopa rataf fyddwch chi byth yn ei gwneud!
Prif awgrym: beth am gynnal digwyddiad cyfnewid teganau/dillad/nwyddau’r tŷ yn yr awyr agored – os oes teuluoedd eraill yn eich ardal yn ailwampio eu cartrefi, beth am awgrymu parti cyfnewid? Gallwch ddweud hwyl fawr wrth eich holl eitemau dieisiau a chroesawu eitemau newydd i’ch cartref... cofiwch wisgo eich sbectol glanhau ac osgoi dewis unrhyw beth nad ydych ei angen!
Rhoddi
- Siopau elusen – mae siopau elusen lleol yn goroesi trwy werthu eich eitemau dieisiau ac mae’n ffordd hanfodol i godi arian ar gyfer prosiectau elusennol yn y DU ac yn fyd-eang. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi eich dillad, esgidiau, teganau ac ategolion mewn bag, a mynd a nhw i siop elusen yn ystod oriau agor. Mae rhai siopau’n derbyn llyfrau, CD a chyfarpar cegin, felly os ydych eisiau cynnwys yr eitemau hyn, mae’n werth gwirio a ydyn nhw’n eu derbyn.
- Rhoddi dodrefn i elusen neu brosiectau digartrefedd neu dai – gellir ailddefnyddio eitemau o ddodrefn. Mae nifer o grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n fodlon derbyn eich eitemau dieisiau.
Dyma rai dolenni defnyddiol:
Gwerthu
Gwerthu ar-lein – cyn belled â bod yr eitemau rydych eisiau cael gwared arnynt mewn cyflwr da, nid oes unrhyw reswm pan na allwch eu gwerthu nhw. Mae safleoedd arwerthu ar-lein yn ddewis da.
Gwerthiant cist car – mae’n ffordd wych i gynnwys y teulu cyfan; nid yn unig y bydd yn eu hannog i glirio, ond bydd yn eu helpu i ennill punt neu ddwy hefyd. Gwiriwch eich papur newydd lleol i weld pryd y cynhelir gwerthiannau cist car neu dewiswch benwythnos heulog a chynnal eich gwerthiant garej eich hun.
Prif awgrym: gallwch ddod o hyd i drysor cudd yn eich llofft, eich garej a’ch sied yn yr ardd i’w gwerthu, eu rhoddi i elusen neu gallwch fynd â nhw i ganolfan ailgylchu leol. Os ydych yn storio eitemau yn y llofft nad ydych yn eu defnyddio mwyach, beth am eu gwerthu am arian ar-lein? Hefyd, mae’n gwneud synnwyr perffaith i chi a’ch waled.
Dolenni defnyddiol eraill
Ffynhonnell
Diolch i Netmums am ganiatáu i ni ddefnyddio eu cynnwys -http://www.netmums.com/lifestyle/house-and-home